Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Gorffennaf 2018
Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 18 - Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013
Diben
1. Yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(iv), mae'r Pwyllgor Busnes yn gyfrifol am wneud argymhellion ar arferion a gweithdrefnau cyffredinol y Cynulliad, gan gynnwys unrhyw gynigion i ail-wneud neu ddiwygio'r Rheolau Sefydlog.
2. Mae'r adroddiad yn argymell diwygio Rheol Sefydlog 18 i sicrhau y gall y "Pwyllgor cyfrifol" gyflwyno Memorandwm Swyddog Cyfrifyddu i ddeiliad newydd swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru (ACC). Mae'r newidiadau y cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Busnes i'w gweld yn Atodiad A, ac mae'r cynigion ar gyfer Rheolau Sefydlog newydd i'w gweld yn Atodiad B.
Y cefndir
3. Yn 2014, cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y pryd gyfres o newidiadau i'r Rheolau Sefydlog ar ôl i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) (DACC) gael Cydsyniad Brenhinol. Roedd y newidiadau'n dirprwyo nifer o'r swyddogaethau a roddwyd i'r Cynulliad o dan y Ddeddf i un o bwyllgorau'r Cynulliad.
4. Yn sgil penodi ACC newydd yn ddiweddar, daeth i'r amlwg ers hynny fod angen diwygiad pellach i sicrhau bod darpariaeth ar gyfer cyhoeddi Memorandwm Swyddog Cyfrifyddu; swyddogaeth a fyddai'n cael ei chyflawni o dan Atodlen 1 33(6) i DACC[1] . O ganlyniad, ystyriodd y Pwyllgor Busnes effaith y newidiadau hyn ar Reolau Sefydlog y Cynulliad ac mae'n cynnig bod y swyddogaeth hon, yn yr un modd â swyddogaethau eraill sy'n ymwneud â goruchwylio ACC a Swyddfa Archwilio Cymru (SAC), yn cael eu dirprwyo i'r "Pwyllgor cyfrifol" o dan Reol Sefydlog 18 (y Pwyllgor Cyllid ar hyn o bryd).
Cynnig ar gyfer newid
5. Mae Rheolau Sefydlog 18.10 a 18.11 yn dirprwyo gwahanol gyfrifoldebau i'r "Pwyllgor cyfrifol" mewn perthynas â Llywodraethu Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) ac ACC. Mae'r dirprwyaethau hyn yn cynnwys swyddogaethau sy'n ymwneud â phenodi ACC, ac felly mae'n gwneud synnwyr i ddirprwyo'r ddarpariaeth sy'n ymwneud â Memorandwm y Swyddog Cyfrifyddu i'r un pwyllgor.
6. Mae Rheol Sefydlog 18.10 yn nodi'r darpariaethau y mae'n rhaid i'r pwyllgor cyfrifol eu harfer, tra bod Rheol Sefydlog 18.11 yn nodi'r darpariaethau y caiff y pwyllgor cyfrifol eu hystyried. Awgrymir y dylid ychwanegu'r diwygiad newydd ynghylch dirprwyo at Reol Sefydlog 18.11, gan nad yw'n ofyniad statudol.
Camau i’w cymryd
7. Ystyriodd y Pwyllgor Busnes y materion hyn yn gyntaf ar 19 Mehefin 2018, gan gytuno o ran egwyddor ar y newidiadau arfaethedig.
8.
Derbyniodd y Pwyllgor Busnes y newid i'r Rheol
Sefydlog 18 yn ffurfiol ar 3 Gorffennaf 2018, a gwahoddir y
Cynulliad i gymeradwyo'r cynnig fel y'i nodir yn Atodiad
B.
Atodiad A
RHEOL SEFYDLOG 18 – Cyfrifon Cyhoeddus a Goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru |
|
18.11 Caiff pwyllgor cyfrifol ystyried materion ynghylch llywodraethu Swyddfa Archwilio Cymru ac ynghylch goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru a'r Archwilydd Cyffredinol, gan gynnwys: (i) ystyried y Cynllun Blynyddol a osodir ar y cyd gan yr Archwilydd Cyffredinol a chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru gerbron y Cynulliad o dan adran 26 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, a chyflwyno adroddiad i'r Cynulliad ar y cynllun hwnnw;
(ii)
cynghori archwilydd Swyddfa Archwilio Cymru ar yr
ymchwiliadau sydd i'w cynnal o dan baragraff 35(7) o Atodlen 1 i
Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013;
(iii)
ystyried dogfennau a osodir gerbron y Cynulliad gan
archwilydd cyfrifon Swyddfa Archwilio Cymru o dan baragraffau 35(2)
a 35(7) o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, a
chyflwyno adroddiadau i'r Cynulliad ar y dogfennau hynny; (iv) ystyried yr Adroddiad Blynyddol ac unrhyw adroddiadau interim a osodir ar y cyd gan yr Archwilydd Cyffredinol a chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru gerbron y Cynulliad o dan baragraff 3(6) o Atodlen 2 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, a chyflwyno adroddiadau i'r Cynulliad ar yr adroddiadau hynny;
(v)
pennu dyddiadau i'r Archwilydd Cyffredinol a
chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru osod adroddiadau interim ar y
cyd gerbron y Cynulliad, yn unol â Pharagraff 3(6)(b) o
Atodlen 2 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013;
(vi)
nodi cyfrifoldebau ar gyfer swyddog cyfrifyddu
Swyddfa Archwilio Cymru mewn perthynas â chyfrifon a chyllid
Swyddfa Archwilio Cymru, yn unol â Pharagraff 33(6) o Atodlen
1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013. |
Diwygio'r Rheol Sefydlog Mae'r Rheol Sefydlog ddrafft ddiwygiedig hefyd yn dirprwyo'r cyfrifoldeb am nodi cyfrifoldebau swyddog cyfrifyddu SAC i'r pwyllgor cyfrifol.
|
Atodiad B
RHEOL SEFYDLOG 18 – CYFRIFON CYHOEDDUS A GORUCHWYLIO SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU
Swyddogaethau Pwyllgor mewn Perthynas â Goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru
18.11 Caiff pwyllgor cyfrifol ystyried materion ynghylch llywodraethu Swyddfa Archwilio Cymru ac ynghylch goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru a’r Archwilydd Cyffredinol, gan gynnwys:
(i) ystyried y Cynllun Blynyddol a osodir ar y cyd gan yr Archwilydd Cyffredinol a chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru gerbron y Cynulliad o dan adran 26 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, a chyflwyno adroddiad i'r Cynulliad ar y cynllun hwnnw;
(ii) cynghori archwilydd Swyddfa Archwilio Cymru ar yr ymchwiliadau sydd i'w cynnal o dan baragraff 35(7) o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013;
(iii) ystyried dogfennau a osodir gerbron y Cynulliad gan archwilydd cyfrifon Swyddfa Archwilio Cymru o dan baragraffau 35(2) a 35(7) o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, a chyflwyno adroddiadau i'r Cynulliad ar y dogfennau hynny;
(iv) ystyried yr Adroddiad Blynyddol ac unrhyw adroddiadau interim a osodir ar y cyd gan yr Archwilydd Cyffredinol a chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru gerbron y Cynulliad o dan baragraff 3(6) o Atodlen 2 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, a chyflwyno adroddiadau i'r Cynulliad ar yr adroddiadau hynny;
(v) pennu dyddiadau i’r Archwilydd Cyffredinol a chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru osod adroddiadau interim ar y cyd gerbron y Cynulliad, yn unol â Pharagraff 3(6)(b) o Atodlen 2 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.
(vi) nodi cyfrifoldebau ar gyfer swyddog cyfrifyddu Swyddfa Archwilio Cymru mewn perthynas â chyfrifon a chyllid Swyddfa Archwilio Cymru, yn unol â Pharagraff 33(6) o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.
[1]Atodlen 2 DACC, 33(6): Mewn perthynas â chyfrifon a chyllid SAC, mae gan swyddog cyfrifyddu SAC y cyfryw gyfrifoldebau eraill a bennir o bryd i’w gilydd gan y Cynulliad Cenedlaethol.